Ffurfiwyd y plwyf presennol trwy uno hen blwyfi Llanwnnen a Llanbedr Wledig nol yn 70au y ganrif ddiwethaf. Plwyf gymharol fach yw gyda tua 350 ar restr yr etholwyr. Prif bentref y plwyf yw Llanwnnen ac mae ynddo Y sgol Gynradd Gymunedol, Eglwys hynafol Santes Lleucu a chapel Undodaidd Capel y Groes. Ym mynwent y capel hwn y claddwyd Joseph Jenkins, y “Swagman” a dreuliodd rhan helaeth o’i oes yn yr “outback” yn Awstralia. Mae yna hefyd Eglwys hanesyddol yn ardal Maestir o fewn y plwyf. Mae hen ysgol Maestir wedi ei dymchwel a’i ail chodi yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Sain Ffagan.
Yng nghanol y pentref mae olion hen gastell Tomen a Beili o’r Canol Oesoedd sy’n edrych i lawr dros yr afon Grannell.
Ceir hefyd o fewn y plwyf lawer o fusnesau bach a mawr sy’n rhoi gwaith i lawer o drigolion yr ardal. Mae bron pob cofnod am Lanwnnen yn dyfynnu’r cwpled llafar gwlad i ddisgrifio’r ardal.

Llanwnnen, lle llawn annwyd!
Lle llwm am dan, lle llawn am fwyd.
Mae’r cwpled yn egluro’r ffaith nad oedd mawn i’w gael yn yr ardal ar gyfer y tan ond fod yma ddigon o dir ffrwythlon i dyfu cnydau.